Newborn Hearing Screener (Carmarthen)

Mae cyfle wedi codi i weithio o fewn Is-adran Canolbarth a Gorllewin Cymru Sgrinio Clyw Babanod Cymru, rhaglen Cymru gyfan sy'n darparu gwasanaeth unffurf o ansawdd uchel o fewn polisïau Cymru gyfan a safonau a phrotocolau Cymru gyfan.

Byddwch wedi eich lleoli yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, ac yn gweithio'n rhan o dîm sy'n cymryd rhan yn y gwaith o sgrinio clyw babanod newydd. Byddwch yn ymgymryd â'r ystod lawn o ddyletswyddau sgrinio clyw babanod, mewn lleoliadau ysbyty a lleoliadau cymunedol. Mae dyletswyddau'n cynnwys cyfathrebu â rhieni trwy gydol y broses, ymdrin â babanod, defnyddio offer sgrinio, a chofnodi'n gywir data clinigol a data ynglŷn â phrofion sy'n berthnasol i'r broses sgrinio – felly mae sgiliau cyfathrebu da a phrofiad o ddefnyddio cyfrifiadur yn hanfodol. Rhaid ichi fod yn unigolyn hyderus a dibynadwy, a meddu ar y gallu i weithio'n dda o dan bwysau.

Mae'r swydd hon ar gyfer 20 awr yr wythnos arno sylfaen rota. Bu angen gweithio oriau ychwanegol yn ôl yr angen yn ddymunol. Bydd gofyn i chi weithio amser llawn yn ystod y cyfnod hyfforddi cychwynnol.

Er y bydd y safle ganolfan yn Ysbyty Glangwili, bydd hefyd angen i chi weithio yn Aberystwyth, Hwlffordd, LLanelli, i redeg clinigau. Felly bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus deithio ac gweithio ar safleoedd eraill o fewn yr is-adran yn ôl yr angen.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Application ends: 
Sunday, November 10, 2019
Job role: 
Salary: 
£17,652 to £19,020 per annum pro rata
Carmarthen
United Kingdom

Quick Tips

Each hearing aid always comes with a user guide, if you have lost your user guide check out our user guide section to download it.